Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed 2025

Donor before giving blood

Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed!

Mae dydd Llun 09 Mehefin yn nodi dechrau’r Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed.

Mae’r Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed yn wythnos lle rydym yn codi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o roi gwaed, er mwyn annog y rheini sydd erioed wedi rhoi gwaed i roi cynnig arni.

Mae'r rhoddion hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn achub bywydau bob dydd, drwy gefnogi amrywiaeth o driniaethau, o helpu dioddefwyr damweiniau sy’n gwella a chleifion â chanser y gwaed, i gefnogi mamau a babanod newydd-anedig yn ystod genedigaeth. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cefnogi 19 o ysbytai ar draws y wlad, ac yn dibynnu ar roddion gan roddwyr gwaed, platennau a mêr esgyrn i gefnogi cleifion mewn angen.

A gaf i roi gwaed? Gwneud apwyntiad Y frwydr yn erbyn canser y gwaed Sut i helpu heb roi gwaed

Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed, byddwn yn rhannu cynnwys ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, o straeon am bobl sydd wedi derbyn gwaed, i'r rhesymau pam bod ein rhoddwyr yn dewis rhoi gwaed. Bydd thema ar gyfer pob diwrnod, a bydd yn rhoi llwyfan i ni ganolbwyntio ar agwedd benodol ar ein gwasanaeth.

Mae'r wythnos yn cynnwys Diwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd ar 14 Mehefin hefyd, sy'n ddigwyddiad blynyddol sydd yn cael ei drefnu gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Tad yn achub mab sy'n brwydro yn erbyn anhwylder gwaed prin : "Mae anhwylderau gwaed yr un mor fygythiol i fywyd â chanser ac mae angen yr un faint o wydnwch,

Cafodd Jasper Hodgson-Smith, saith oed, ddiagnosis o anhwylder gwaed prin a oedd yn peryglu bywyd. Daeth y iachâd gan ei Dad, Matt, cyfatebiaeth bôn-gelloedd perffaith i helpu Jasper i oresgyn y clefyd.

Mae’r teulu o Abertawe yn gobeithio y bydd rhannu eu stori ar gyfer Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed (09 – 15 Mehefin 2025) yn annog mwy o bobl i ystyried helpu cleifion mewn angen trwy roi gwaed neu fôn-gelloedd gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Darllen mwy

Pwy sy’n cael rhoi gwaed?

Rydym yn annog ac yn croesawu'r rhan fwyaf o oedolion i roi gwaed. Mae rhywfaint o resymau pam nad ydy pobl yn gallu rhoi gwaed, ond nid cymaint ag y mae pobl yn ei feddwl! Gallai unrhyw un sy'n cyd-fynd â'r meini prawf isod roi gwaed:

  • Rhwng 17 a 66 oed (ar gyfer eich rhodd gyntaf)
  • Yn pwyso dros 7 stôn 12 pwys (50kg)
  • Yn iach a dim yn destun eithriadau meddygol

Y frwydr yn erbyn canser y gwaed

Mae angen mwy o bobl ifanc 17 i 45 oed i ymuno â ni yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed.

Oeddech chi'n gwybod na fydd 75% o gleifion yn y DU sy'n aros am drawsblaniad mêr esgyrn yn dod o hyd i roddwr cydnaws yn eu teuluoedd?

Darllen mwy

Nid rhoi gwaed yw'r unig ffordd o helpu.

Gallwch wneud gwahaniaeth sy’n gallu achub bywydau mewn sawl ffordd arall.

Allwch chi ein helpu ni i annog pobl i roi gwaed? Rydym yn chwilio am gefnogwyr a allai ein helpu drwy ledaenu'r gair a gweiddi am y pwysigrwydd o roi gwaed, platennau neu fêr esgyrn.

Dyma rywfaint o'r ffyrdd y gallwch ein helpu i gyfleu'r neges a chefnogi pobl yng Nghymru sydd angen rhoddion gwaed:

  • Arddangos poster yn y gwaith neu yn eich ardal leol
  • Hyrwyddo ein clinigau rhoi gwaed gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr
  • Rhannu adnoddau am y gwahaniaeth mae rhoi gwaed yn gallu ei wneud sy’n gallu achub bywydau

Pum mlynedd ar ôl.

Ar ddydd Gwener 14 Mehefin, pedair blynedd wedi mynd heibio hefyd ers i ni gyflwyno'r argymhellion a wnaed gan Grŵp Llywio FAIR (For the Assessment of Individualised Risk), sy'n gydweithrediad ar draws y DU, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o holl wasanaethau gwaed y DU, arbenigwyr meddygol a gwyddonol, grwpiau LHDCT+, yn ogystal â detholiad o gleifion a rhoddwyr.

Darllen mwy

Dewch o hyd i’ch sesiwn rhoi gwaed agosaf

Cliciwch ar y ddolen i wirio eich cymhwysedd, ac i ddod o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.